fbpx

50 DAYS TO GO UNTIL THE 2024 EISTEDDFOD PROCLAMATION

50 DAYS TO GO UNTIL THE 2024 EISTEDDFOD PROCLAMATION

There are only 50 days to go until the Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod Proclamation Ceremony. This year’s festival is held on Saturday 24 June, and it’s a great opportunity for local people to welcome the Eisteddfod to the area and for the festival to give residents a taste of things to come at the Eisteddfod itself.

Helen Prosser

Today, organisers announce that the ceremony will be held in Aberdare, with the National Eisteddfod returning to its roots, and to the home of the first modern Eisteddfod in 1861. Gorsedd Cymru will lead a procession through the town, prior to the traditional ceremony, with the first copy of the Rhondda Cynon Taf Eisteddfod List of Competitions presented to the Archdruid by the Chair of the Executive Committee, Helen Prosser. The ceremony is an important milestone in the preparations for next year’s festival.

She says, “Knowing that the Proclamation is on the horizon has given us quite a thrill here in Rhondda Cynon Taf. We’ve been hard at work for a few months preparing the List of Competitions and making sure there’s a local flavour to the national competitions, and we hope that everyone will be excited to see what competitions are in store for next year. Presenting the List to the Archdruid will be a very special experience, and to be able to do so in the home of the first modern Eisteddfod is quite a privilege.”

The partnership

Preparing for the Proclamation has been a partnership between Gorsedd Cymru, the Eisteddfod and Rhondda Cynon Taf County Borough Council, and Councillor Rhys Lewis, Cabinet Member for Education, Youth Participation & Welsh Language, said, “It will be fantastic to welcome the Eisteddfod back to Aberdare for the Proclamation event, back in the place where the first ever modern Eisteddfod was held.

“The Proclamation is steeped in tradition and will be an important milestone in the countdown to the 2024 Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod.  Events such as this, and the frequent community events being held across Rhondda Cynon Taf, are creating a real buzz leading up to next year’s festival.

“I would urge all our residents to come along and take part; it really will be a special day for everyone.”

The Proclamation

Looking forward to the Proclamation and the publication of the List of Competitions is the perfect opportunity to launch the appeal for prizes for the Eisteddfod, and for the first time, the prizes are available to secure online. Organisers are keen to make it easy for people to support the festival. Helen Prosser said, “We’ve had so much support from all over Wales. People are very keen to be part of the Eisteddfod here in the Valleys, and so many people from all parts of Wales and beyond have a connection with someone or something in the catchment area.

“We want everyone to have a chance to support us, and so we’re launching a national appeal today for the prizes. This is to make sure that everyone can be part of the competitions and celebrations and we hope that people will want to contribute generously. We’ve got an ambitious financial target, and we need the support of the whole of Wales to help us reach the goal.”

Campaigns have already started to raise awareness and funds locally. A £15 for 15 months campaign is already attracting supporters, and you can join this campaign online and contribute money monthly to the local fund in the run-up to the festival. Another new campaign is the major prizes campaign. For the first time, organisers are inviting expressions of interest from individuals, groups and organisations to present the main awards, with a panel discussing and selecting the successful applications.

“We’re aware that some individuals, groups and organisations have been disappointed in the past as they’ve missed out on the chance to present the Chair, the Crown or another significant medal or award. We believe in doing things in a slightly different way here in Rhondda Cynon Taf, so we’ve issued an open invitation for anyone to express an interest in presenting a major prize or award, and we’re looking forward to receiving lots of applications for these honours before the closing date on 18 May,” says Helen Prosser.

Volunteers

And with looking forward to the Proclamation comes the first chance to recruit volunteers to help on the day. The Eisteddfod is keen to cast the net as wide as possible to attract a group of enthusiastic volunteers to be part of the Proclamation in Aberdare. All the details are on the Eisteddfod website, https://eisteddfod.cymru/2024-cyhoeddi, and volunteers will be invited to attend a training event in the Aberdare area during the week leading up to the event.

Organisers are also encouraging local people to get involved in local committees across the region. These committees lead in raising awareness about the Eisteddfod in their local area. The work has already started in the Rhondda, with the first Cwm Cynon meeting to be held on Thursday 18 May at the Aberdare Rugby Club and the Taf meeting taking place soon. You can join the local committee by volunteering here, https://eisteddfod.cymru/2024-helpu-help.

The Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod is held from 3-10 August next year. For more information go online.

Image from A Bit of Old Aberdare

50 DIWRNOD I FYND TAN CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL RHONDDA CYNON TA

Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. Cynhelir yr ŵyl eleni ddydd Sadwrn 24 Mehefin, ac mae’r diwrnod yn gyfle pwysig i’r ardal groesawu’r Eisteddfod, ac i’r Brifwyl groesawu trigolion lleol i’r Eisteddfod.

Heddiw, mae’r trefnwyr yn cyhoeddi mai yn nhref Aberdâr y cynhelir y seremoni, gyda’r Brifwyl yn dychwelyd i’w gwreiddiau, ac i gartref yr Eisteddfod fodern gyntaf yn 1861.  Bydd Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy’r dref, cyn cynnal eu seremoni draddodiadol, gyda’r copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser.  Mae’r seremoni’n garreg filltir bwysig yn y paratoadau ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

Dywed, “Mae gwybod fod y Cyhoeddi ar y gorwel yn rhoi dipyn o wefr i ni yma yn Rhondda Cynon Taf.  O’r diwedd, mae ‘na rywbeth go iawn i ni gydio ynddo ac edrych ymlaen ato.  Rydyn ni wedi bod wrhi ers rhai misoedd yn paratoi’r Rhestr Testunau, gan sicrhau bod blas lleol ar y cystadlaethau cenedlaethol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb arall yn teimlo’n gyffrous wrth weld pa gystadlaethau sydd ar gael ar eu cyfer y flwyddyn nesaf.  Bydd cyflwyno’r gyfrol i’r Archdderwydd yn brofiad arbennig iawn, ac mae cael gwneud hynny yng nghartref yr Eisteddfod fodern gyntaf yn dipyn o fraint.”

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y Cyhoeddi wedi bod yn bartneriaeth rhwng Gorsedd Cymru, yr Eisteddfod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Iaith Gymraeg, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i Aberdâr ar gyfer digwyddiad y Cyhoeddi, yn ôl i gartref yr Eisteddfod fodern gyntaf erioed.

“Mae’r Cyhoeddiad yn llawn traddodiad ac yn garreg filltir bwysig yn y cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. Mae digwyddiadau fel hyn, a’r gweithgareddau cymunedol sy’n cael eu cynnal ar draws Rhondda Cynon Taf, yn creu bwrlwm go iawn yn arwain at yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

“Byddwn yn annog ein holl drigolion i ddod draw i gymryd rhan; bydd yn ddiwrnod arbennig i bawb.”

Mae edrych ymlaen at y Cyhoeddi ac at gyhoeddi’r Rhestr Testunau‘n gyfle perffaith i lansio’r apêl am wobrau ar gyfer yr Eisteddfod, ac am y tro cyntaf, mae’r gwobrau ar gael i’w harchebu ar-lein.  Y bwriad yw ei gwneud hi’n hawdd i unrhyw un gynnig gwobr i gefnogi’r ŵyl.  Meddai Helen Prosser, “Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth o bob rhan o Gymru.  Mae pobl yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r Eisteddfod yma yn y Cymoedd, ac mae gan gymaint o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt gysylltiad gyda rhywun neu rhywbeth yn y dalgylch.

“Rydyn ni am i bawb gael cyfle i gefnogi, ac felly rydyn ni’n lansio apêl genedlaethol heddiw ar gyfer y gwobrau.  Dyma gyfle i bawb fod yn rhan o’r cystadlaethau a’r dathliadau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr o bobl am gyfrannu’n hael.  Mae gennym ni darged ariannol uchelgeisiol, ac rydyn ni angen cefnogaeth Cymru gyfan er mwyn ein helpu ni i gyrraedd y nod.”

Mae nifer o ymgyrchoedd eisoes wedi cychwyn er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian yn lleol.  Mae ymgyrch £15 am 15 mis eisoes yn denu cefnogwyr, a gellir ymuno â’r ymgyrch hon ar-lein a chyfrannu arian yn fisol i’r gronfa leol yn y cyfnod hyd at yr ŵyl.  Ymgyrch newydd arall yw’r ymgyrch gwobrau mawr.  Am y tro cyntaf, mae’r trefnwyr yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i gyflwyno’r prif wobrau, gyda phanel yn trafod a dewis y ceisiadau llwyddiannus. 

“Roedden ni’n ymwybodol bod nifer o unigolion, cyrff a sefydliadau wedi’u siomi yn y gorffennol gan eu bod wedi colli’r cyfle i gyflwyno’r Gadair, y Goron neu rai o’n medalau a gwobrau sylweddol eraill, ac rydyn ni’n credu mewn gweithredu mewn ffordd ychydig yn wahanol yma yn Rhondda Cynon Taf.  Felly, rydyn ni’n gwahodd unrhyw un i fynegi diddordeb i gyflwyno’r gwobrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn nifer fawr o geisiadau am yr anrhydedd erbyn y dyddiad cau ar 18 Mai,” yn ôl Helen Prosser.

Ac wrth edrych ymlaen at y Cyhoeddi daw’r cyfle cyntaf i alw am wirfoddolwyr i helpu ar y dydd.  Mae’r Eisteddfod yn awyddus i daflu’r rhwyd mor eang â phosibl i ddenu criw o wirfoddolwyr brwdfrydig i fod yn rhan o’r Cyhoeddi yn Aberdâr.  Mae’r manylion i gyd ar wefan yr Eisteddfod, https://eisteddfod.cymru/2024-cyhoeddi, a byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddi ar gyfer ein gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos hyd at y Cyhoeddi yn ardal Aberdâr.

Ar hyn o bryd mae’r trefnwyr hefyd yn chwilio am drigolion lleol i ymuno â’r pwyllgorau codi hwyl.  Y pwyllgorau lleol yma sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod yn eu cymunedau lleol.  Mae’r gwaith eisoes wedi cychwyn yn y Rhondda, gyda chyfarfod cyntaf Cwm Cynon i’w gynnal nos Iau, 18 Mai yng Nghlwb Rygbi Aberdâr a chyfarfod Taf yn digwydd yn fuan.  Gellir ymuno â’r pwyllgor lleol drwy wirfoddoli yma, https://eisteddfod.cymru/2024-helpu-help.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst y flwyddyn nesaf.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

Spread the love
Team @ AberdareOnline

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *