fbpx

2024 EISTEDDFOD OFFICIALS ANNOUNCED

With the National Eisteddfod visiting Rhondda Cynon Taf for the first time for almost 70 years in 2024, festival organisers have announced the names of the officials steering the project over the next year and a half.

 

The Rhondda Cynon Taf Eisteddfod project has been running for a while, engaging with communities at micro local level, to raise awareness about the Eisteddfod, our language and culture across the region.  The steering group has also met over the past few months to start the preparations for the Eisteddfod’s long-awaited visit.

 

The next step is to create subject committees to work on the list of competitions, as well s setting up local committees to raise awareness and place the community fund on a firm footing.

Helen Prosser from Tonyrefail has been elected Chair of the Executive Committee.  Originally from Rhondda Cynon Taf, Helen works for the National Centre for Learning Welsh, following a period leading the Welsh learning sector locally.  She said, “The Eisteddfod’s visit to our area is an opportunity for us to show that we have a vibrant, modern and inclusive culture and that there’s a welcome for everyone.  This will be one of my main messages over the next few months.

 

“The next year and a half is going to be challenging, and I want people who’ve been through Welsh medium education to see the Eisteddfod as a chance to give our language another go.”

 

Andrew White from Llanharan is the Executive Committee’s Deputy-chair.  Andrew started learning Welsh after visiting the Eisteddfod in Newport as a seventeen year old, and the language now thrives in the family home.

 

Andrew is the National Lottery Heritage Fund’s Director for Wales, and before joining the organisation, he worked as the Director of Stonewall Cymru for a number of years.  He is keen to contribute towards an Eisteddfod that reflects the wonderful range of communities across the region.

 

The Chair of the Local Fund, Iolo Roberts is from Efail Isaf, and works as a journalist for the BBC in Cardiff.  The Eisteddfod has played an important role in his life, having visited the festival and competed every year since his childhood.

 

He believes that the Eisteddfod’s visit is an excellent opportunity to bring the region together, working towards reaching a million Welsh speakers by 2050.  The next year and a half is a chance to build on the enthusiasm and love which exists across all three valleys towards our language.

 

Welcoming the three officials, Eisteddfod Chief Executive, Betsan Moses said, “We’re looking forward to working with Helen, Iolo and Andrew over the next few months as we prepare for the Eisteddfod’s visit to Rhondda Cynon Taf.  We’ll be encouraging people to join our committees and local groups early in the new year so we can begin the work of organising the festival locally.

 

“Rhondda Cynon Taf has an important link with the Eisteddfod’s history.  The first modern-day Eisteddfod was held in Aberdare in 1861, and although we haven’t held the festival locally since 1956, we have visited Rhondda, Cynon and Taf in the past.  We’re looking forward to returning to the area and to working with Helen, Andrew and Iolo and the team to make sure that the Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod is a great success, nationally as well as locally.”

 

We’re still looking to elect a secretary for the Executive Committee.  Nominations for this role close on 9 January, with full details available here – https://eisteddfod.wales/2024-description-secretary.

 

The Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod is held in August 2024.  For more information go to www.eisteddfod.wales/2024.

 

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL RHONDDA CYNON TAF

 

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd yn 2024, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith dros y flwyddyn a hanner nesaf.

 

Mae prosiect Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi cychwyn ers peth amser gyda chynllun cymunedol yn cael ei redeg ar lefel meicro-leol mewn cymunedau ar draws y dalgylch er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod, ein hiaith a’n diwylliant ymysg cynulleidfaoedd newydd.  Yn ogystal, mae grŵp llywio wedi cyfarfod dros y misoedd diwethaf er mwyn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal.

 

Bydd y gwaith o greu’r pwyllgorau testun a’r pwyllgorau lleol yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, gan fynd ati i greu’r rhestr testunau ynghyd â grwpiau cymunedol a fydd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth a gosod sail gref i’r gronfa leol. 

 

Helen Prosser o Donyrefail yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.  Yn wreiddiol o ardal Rhondda Cynon Taf, mae Helen yn gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dilyn cyfnod pan fu’n arwain y sector dysgu Cymraeg yn yr ardal.  Meddai Helen, “Mae ymweliad yr Eisteddfod â’n hardal ni’n gyfle i ddangos bod gennym ddiwylliant modern, cyffrous a chynhwysol a bod croeso i bawb, a bydd hon yn neges bwysig gen i dros y cyfnod nesaf.

 

“Bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn her ond hoffwn weld pobl sydd wedi cael addysg Gymraeg yn yr ardal yn gweld yr Eisteddfod fel cyfle i ddod yn ôl at ein hiaith.

 

Andrew White o Lanharan sydd wedi’i ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith.  Dechreuodd Andrew ddysgu’r Gymraeg ar ôl ymweld ag Eisteddfod Casnewydd pan oedd yn 17 oed, ac mae wedi sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y teulu erbyn hyn. 

 

Andrew yw Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a chyn ymuno â’r sefydliad, bu’n Gyfarwyddwr Stonewall Cymru am flynyddoedd.  Mae’n frwd iawn i gyfrannu at Eisteddfod sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau ar draws y fro.

 

O Efail Isaf y daw Cadeirydd y Gronfa Leol, Iolo Roberts, sy’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC yng Nghaerdydd.  Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan fawr iawn o’i fywyd erioed, gan ei fod wedi mynychu a chystadlu’n flynyddol ers pan oedd yn blentyn. 

 

Dywed fod ymweliad yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ddod â’r ardal at ei gilydd ac i gymryd camau mawr yn yr ymdrech i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Yn ôl Iolo, mae’r flwyddyn a hanner nesaf yn gyfle i adeiladu ar y brwdfrydedd a’r cariad at ein hiaith sy’n bodoli ym mhob cwr o’r tri chwm.

 

Wrth groesawu’r tri, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Helen, Iolo ac Andrew dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.  Byddwn yn dechrau hyrwyddo cyfleoedd i ymuno â’n pwyllgorau a grwpiau lleol yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd, er mwyn cychwyn ar y gwaith pwysig o drefnu’r Brifwyl yn yr ardal.

 

“Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn rhan bwysig o hanes yr Eisteddfod.  Cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf yn Aberdâr yn 1861, ac er nad ydyn ni wedi cynnal ein gŵyl yn lleol ers 1956, rydyn ni wedi ymweld â Rhondda, Cynon a Thaf yn eu tro.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal ac at gydweithio gyda Helen, Iolo, Andrew a’r tîm a fydd yn dod ynghyd ddechrau’r flwyddyn i sicrhau bod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn ŵyl i’w chofio yn genedlaethol yn ogystal â lleol.”

 

Mae un rôl yn y tîm yn dal i fod ar gael, sef ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.  Mae enwebiadau ar gyfer y rôl hon yn cau ar 9 Ionawr 2023, a cheir rhagor o wybodaeth yma – www.eisteddfod.cymru/2024-disgrifiad-ysgrifennydd>

 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst 2024.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru/2024.

Spread the love
Team @ AberdareOnline

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *