fbpx

OVER 3,500 LOCAL PEOPLE JOIN IN THE RHONDDA CYNON TAF EISTEDDFOD LAUNCH CELEBRATIONS

OVER 3,500 LOCAL PEOPLE JOIN IN THE RHONDDA CYNON TAF EISTEDDFOD LAUNCH CELEBRATIONS

More than 3,500 local people came to celebrate the launch of next year’s Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod at The Lion in Treorchy over the weekend. 

This was the first major event to raise awareness and encourage local people to join the Eisteddfod team for the next year and a half.  It follows an eighteen-month community project focusing on reaching hard-to-reach audiences and creating connections across Rhondda, Cynon and Taf.  Saturday’s festival was funded by the UK Government’s Shared Prosperity Fund – Rhondda Cynon Taf Council Community Grant.

And with the launch having taken place, organisers are now setting up the various committees to lead on awareness raising, organising local community events, fundraising, and working on the festival’s list of competitions to be published in June.

This work starts following a public meeting at the University of South Wales, Treforest, on Thursday 16 March at 19:00, where organisers will outline plans for the Eisteddfod itself, along with information on the individual committees.

Encouraging local people to come and help with the arrangements is a key part of the Eisteddfod’s work, and local Executive Committee Chair, Helen Prosser is keen for people of all ages to get involved.  She said, “We’ve all been inspired by the launch in Treorchy and look forward to creating the team here in Rhondda Cynon Taf to build on this success and create what will be a truly memorable National Eisteddfod in our area.

“Come and find out more about how you can help.  We need to bring together a friendly, committed and fun-loving group of people from across the region who want to get involved in all sorts of things, from coming up with competition ideas and suggesting sessions for festival week to helping us to organise local activities in our communities and villages and promoting our Eisteddfod to everyone in Rhondda Cynon Taf and further afield.”

The committees working on the list of competitions will meet on Saturday 18 March at 10:30, and this meeting will also be held at the University of South Wales, Treforest with members of the Eisteddfod’s central panels on hand to advise and help where needed.

We’re encouraging people to register to join a committee ahead of the meeting in Treforest.  Go to https://eisteddfod.wales/2024-subject-committees for more information and to register.

The Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod will be held at the beginning of August 2024., For more details go online.

Daeth dros 3,500 o drigolion lleol i ddathlu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i ardal Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.  Gyda rhaglen llawn o weithgareddau’n rhoi blas o’r Eisteddfod ar stepen y drws, roedd y digwyddiad yn nhafarn Y Lion, Treorci, ddydd Sadwrn 4 Mawrth,  yn llwyddiant mawr.

Dyma’r digwyddiad mawr cyntaf i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl leol i ymuno â thîm yr Eisteddfod am y flwyddyn a hanner nesaf.  Mae’n dilyn prosiect cymunedol dros y deunaw mis nesaf sydd wedi canolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd anodd i’w cyrraedd a chreu cysylltiadau ym mhob cwr o Rondda, Cynon a Thaf.  Ariannwyd yr ŵyl gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf.

A chyda’r lansiad wedi’i gynnal, mae golygon trefnwyr Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn troi at y gwaith o godi ymwybyddiaeth, trefnu gweithgareddau lleol a chasglu arian, ynghyd â gweithio ar y rhestr testunau a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.

Bydd y gwaith hwn yn cychwyn yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest, nos Iau 16 Mawrth am 19:00, gyda chyfle i glywed mwy am y cynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod ei hun, ynghyd â gwybodaeth am y pwyllgorau unigol.

Wrth annog pobl leol i ddod i helpu gyda’r trefniadau, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, “Rydyn ni i gyd wedi cael ein hysbrydoli gan y lansiad yn Nhreorci ac yn edrych ymlaen at greu’r tîm yma yn Rhondda Cynon Taf i lywio’r gwaith o dynnu ein Heisteddfod ni at ei gilydd dros y deunaw mis nesaf.

“Dewch i glywed mwy am y cyfleoedd sydd ar gael.  Rydyn ni angen criw gweithgar a hwyliog o bob rhan o’r dalgylch sydd â diddordeb ,mewn pob math o bethau, o greu cystadlaethau a meddwl am sesiynau i’n helpu ni i drefnu gweithgareddau lleol yn ein cymunedau a’n pentrefi ac i ddweud wrth bawb yn Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ein bod ni’n gweithio ar ŵyl i’w chofio ym mis Awst 2024.”

Bydd y pwyllgorau sy’n gweithio ar y rhestr testunau’n dechrau trafod ddydd Sadwrn 18 Mawrth am 10:30, gan ddychwelyd i Brifysgol De Cymru, Trefforest ar gyfer y cyfarfod hwn, gyda chyfle i drafod syniadau a themâu gydag aelodau o banelau canolog yr Eisteddfod hefyd.

Rydyn ni’n annog pobl i gofrestru i ymuno â phwyllgor cyn y cyfarfod yn Nhrefforest.  Ewch i https://eisteddfod.cymru/2024-pwyllgorau-testun am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddechrau Awst 2024., Am ragor o fanylion ewch ar-lein.

Spread the love

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *