fbpx

Plaid takes proactive steps to address child poverty

Rhondda Cynon Taff county council has called on Welsh Government to extend Free School Meals to all children who live in poverty in Wales following a Plaid Cymru motion which was supported by Labour and Independent councillors in RCT.  It is seen as a positive, practical, and progressive step towards improving the experience of children in RCT and Wales.

 

Whilst 30% of children in Wales live in poverty only 13% are entitled to free school meals at present.  This is mainly because the remaining 17% of children live in low paid households that takes them just over the present eligibility criteria.

 

RCT council is also calling for this extension of eligibility to be a step towards rolling out universal Free School Meals to all primary children in Wales.  A call that has been made by various groups in Wales, including Child Poverty Action Group and the People’s Assembly.

 

Councillor Pauline Jarman, Leader of the Plaid Cymru group said

 

“It is very pleasing to know we have the support of almost all RCT councillors on this issue.  Plaid Cymru have already stated that when in government we will commit to the principal of free school meals for all.  It is a basic responsibility of government to ensure that no child feels hungry in school or going to bed.  The first step is to raise the eligibility threshold so that children in every household in receipt of Universal Credit receives free school meals”.

 

 Councillor Heledd Fychan said “I’m proud that we have been able to bring forward this motion and secure the support of the Council. It is an important step in securing equity for children in Wales with children in England and Scotland, where there is already universal free school meal provision for children in the reception class as well as years 1 and 2.

 

Ultimately, we wish to see universal free school meals for all children in Wales as evidence from countries where this is already policy, such as Sweden and Finland, shows that this helps tackle poverty plus improves health and attainment. All our children deserve the best possible start in life.

 

 

 

Plaid yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â thlodi plant

 

Yn dilyn cynnig gan Plaid Cymru mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taff wedi galw ar Lywodraeth Cymru i estyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn sy’n byw mewn tlodi. Cyflwynwyd y cynnig gan Blaid Cymru a cefnogwyd yr alwad gan gynghorwyr Llafur ac Annibynnol yn RhCT.  Mae'n cael ei ystyried yn gam cadarnhaol, ymarferol a blaengar tuag at wella profiad plant yn RhCT a Chymru.

 

Er bod 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi dim ond 13% sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod yr 17% sy'n weddill o blant yn byw mewn cartrefi â chyflog isel, sy'n mynd â nhw ychydig dros y meini prawf cymhwysedd presennol.

 

Mae Cyngor RhCT hefyd yn galw i'r estyniad cymhwysedd hwn fod yn gam tuag at gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yng Nghymru.  Galwad a wnaed hefyd gan amrywiol grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys Grŵp Gweithredu Tlodi Plant a Chynulliad y Bobl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Pauline Jarman, Arweinydd grŵp Plaid Cymru

“ Mae'n braf iawn gwybod bod gennym gefnogaeth bron pob cynghorydd yn Rhondda Cynon Taf ar y mater hwn. Mae Plaid Cymru eisoes wedi nodi y byddem ni yn ymrwymo i'r egwyddor o brydau ysgol am ddim i bawb pe byddem mewn grym.  Mae sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n llwglyd yn yr ysgol neu yn y gwely yn gyfrifoldeb sylfaenol llywodraethau.  Y cam cyntaf yw codi'r trothwy cymhwysedd fel bod plant ym mhob cartref sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn derbyn prydau ysgol am ddim.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Heledd Fychan “Rwy’n falch ein bod wedi gallu cyflwyno’r cynnig hwn a sicrhau cefnogaeth y Cyngor. Mae'n gam pwysig wrth sicrhau tegwch i blant yng Nghymru fel plant yn Lloegr a'r Alban, lle mae darpariaeth prydau ysgol am ddim i blant yn y dosbarth derbyn yn ogystal â blynyddoedd 1 a 2.

 

Yn y pen draw, rydym am weld prydau ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru.  Mae tystiolaeth o wledydd lle mae hyn eisoes yn bolisi, fel Sweden a'r Ffindir, yn dangos bod hyn yn help i fynd i'r afael â thlodi ac yn gwella iechyd a chyrhaeddiad. Mae pob un o'n plant yn haeddu'r dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Spread the love

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *