fbpx

CENSUS RESULTS REINFORCE THE NEED FOR THE NATIONAL EISTEDDFOD TO TRAVEL

There’s more need than ever for the National Eisteddfod to continue travelling around Wales according to organisers, as the results of the 2021 Census on the Welsh language are published today.

 

With mixed results for our language released today, it’s more important than ever to make sure we reach our national goal of a million Welsh speakers and double the daily use of our language by 2050 with the need to continue with our work to inspire people in all parts of Wales to use and learn our language crucially important.

 

Eisteddfod Chief Executive, Betsan Moses, said, "It’s essential that the Eisteddfod continues to travel in the future, so that people in all parts of Wales get a taste of our language and culture on their doorstep.  We’re pleased to see the number of Welsh speakers increasing in some parts of Wales, and it’s important that we continue to visit these areas to support the work being done locally.

 

"Creating opportunities for young people to discover Welsh music and socialise at festivals such as Maes B and the Eisteddfod itself is vitally important. It’s often the first time that many of them have used Welsh in an informal and natural atmosphere. Meeting like-minded people from other parts of Wales who speak our language is a positive and memorable experience.

 

"Projects such as Merched yn Gwneud Miwsig create a Welsh language voice for young women through music, giving them the confidence to perform or get involved in the Welsh music scene in other ways. 

 

"We need to further develop our role in our communities, working at grassroots level to reach new and unfamiliar audiences in the run-up to the Eisteddfod, so that our language and culture take root locally before the Eisteddfod festival itself.

 

"Bringing people together, in Welsh language activities, is one of the most important elements of our project.  Our visit is gives people a reason to get together in their community, whether it’s a densely populated community in a town or city or a small village deep in the countryside.

 

"The last few weeks have shown how important it is to be positive about our country on the international stage. We’ve joined together to support Wales in the World Cup. And now we must join as one to support our language, starting at a micro-local level, looking out at our own community and then at Wales as a whole.

 

"It’s important we continue to encourage and attract people to our language, and that we become more determined than ever to make a difference across Wales.  Our aim today like every other day is to carry on with the work to reach a million Welsh speakers and double the daily use of our language by 2050.

"Here at the Eisteddfod, we’ll continue to use our festival as an excellent opportunity to promote all elements of culture and the arts in Welsh, offering a warm, friendly and inclusive welcome to everyone."

 

The Llŷn and Eifionydd National Eisteddfod will be held in Boduan, near Pwllheli from 5-12 August 2023. For more details go to www.eisteddfod.wales.

 

Mae rôl deithiol yr Eisteddfod yn bwysicach nag erioed er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050, yn ôl y trefnwyr wrth i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg gael eu cyhoeddi heddiw.

 

Gyda chanlyniadau cymysg i’r Gymraeg ymysg gwahanl oedrannau , mae’r angen i barhau gyda’n gwaith i ysbrydoli pobl o bob oed ym mhob rhan o Gymru i ddefnyddio ac i fynd ati i ddysgu ein hiaith yn hollbwysig.

 

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae’n hanfodol fod yr Eisteddfod yn parhau i deithio yn y dyfodol, er mwyn sicrhau fod pobl o bob oed ym mhob rhan o Gymru’n cael blas o’n hiaith a’n diwylliant ar stepen y drws.  Mae’n braf gweld y cynnydd mewn rhai ardaloedd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cael cyfle i ymweld â’r ardaloedd yma er mwyn cefnogi ac atgyfnerthu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn lleol. 

 

“Mae creu cyfleoedd i bobl ifanc ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg a chymdeithasu mewn gwyliau fel Maes B a’r Eisteddfod ei hun yn hanfodol bwysig.  Yn aml, dyma’r tro cyntaf i nifer fawr ohonyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a naturiol y tu allan i fyd addysg.  Mae cyfarfod pobl o’r un anian o rannau eraill o Gymru sy’n siarad ein hiaith yn brofiad positif a chofiadwy. 

 

“Yn ogystal, mae prosiectau fel Merched yn Gwneud Miwsig yn creu llais i ferched ifanc yn y Gymraeg drwy gerddoriaeth, gan roi hyder iddyn nhw berfformio neu adnabod cyfleoedd i fod yn rhan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg mewn rhyw ffordd.

 

“Mae datblygu rôl gymunedol y Brifwyl ymhellach yn angenrheidiol, gan weithio gyda phartneriaid ar lawr gwlad i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac anghyfarwydd yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod, fel bod ein hiaith a’n diwylliant yn cael cyfle i wreiddio’n lleol cyn yr ŵyl ei hun. 

 

“Dod â phobl ynghyd mewn gweithgareddau Cymraeg, yw un o hanfodion pwysicaf ein prosiect.  Mae ymweliad yr Eisteddfod yn rheswm dros ddod at ein gilydd yn ein cymunedau, boed yn gymuned drefol neu boblog neu’n bentref bach yng nghefn gwlad Cymru.

 

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw bod yn bositif am ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol.  Rydyn ni wedi ymuno gyda’n gilydd i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd.  Nawr yw’r amser i ymuno fel un i gefnogi ein hiaith ac i gydweithio, gan ddechrau ar lefel meicro-leol ac edrych allan ar ein hardal ein hunain a Chymru gyfan. 

 

“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i annog a denu pobl o bob oed a chefndir at ein hiaith, gan fod yn fwy penderfynol nag erioed i wneud gwahaniaeth.  Ein nod heddiw fel pob diwrnod arall yw cyrraedd y miliwn a sicrhau ein bod ni hefyd yn dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.

 

“Fel Eisteddfod, fe fyddwn ni’n parhau gyda’n gwaith o ddefnyddio ein gŵyl fel cyfle ardderchog i hyrwyddo pob elfen o ddiwylliant a chelfyddyd yn y Gymraeg gan gynnig croeso cynnes, cyfeillgar a chynhwysol i bawb.”

 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, ger Pwllheli o 5-12 Awst 2023.  Am ragor o fanylion ewch i www.eisteddfod.cymru.

Spread the love

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *