fbpx

Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref: Straeon Cymru ac India

 

Mae Parthian Books, Llenyddiaeth Cymru a'r Wales Arts Review wedi ymuno â Bee Books yn Kolkata, India ar gyfer prosiect llenyddiaeth newydd ar y cyd rhwng awduron o Gymru ac India, o dan y teitl Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Gan gymryd y teitl o nofel glasurol Glyn Jones, The Valley, the City, the Village bydd y prosiect yn cefnogi tri awdur o Gymru a thri o India i ymweld â'r naill wlad a'r llall, gan ganolbwyntio ar agweddau ar gymdeithas fodern y lleoliadau y cyfeirir atynt yn y teitl, a chymryd ysbrydoliaeth ganddynt i gyfansoddi barddoniaeth, rhyddiaith, blogiau a straeon. O ganlyniad i’r prosiect fe gyhoeddir antholeg gan Parthian yn 2018 a fydd yn cynnwys gwaith gan bob un o'r awduron sy'n cymryd rhan.

 

Derbyniwyd grant hael gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chronfa India Cymru y British Council i ariannu’r prosiect. Mae Cronfa India Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r British Council. Diben y gronfa yw cynorthwyo cydweithrediad a chyfnewid artistig rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India a fydd yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau cynaliadwy rhwng y ddwy wlad. Dyma'r unig brosiect llenyddol a ariennir yn y rownd hon o geisiadau.

 

Dewiswyd tri awdur o Gymru i gymryd rhan yn y prosiect hwn: Natalie Ann Holborow a dderbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2016 – 2017, ac y mae ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Suddenly You Find Yourself, yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Kolkata. Yn ymuno â hi mae Siôn Tomos Owen awdur y casgliad dwyieithog Cawl a chyflwynydd y rhaglen ddogfen ar S4C, Pobol y Rhondda. Bydd yn darlunio, canu ac ysgrifennu fel rhan o’r prosiect. Y trydydd awdur yw Sophie McKeand, Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, a fydd yn arwain cyfres o weithdai ar greadigrwydd i ysgolion Kolkata.

 

Bydd y tri yn aros yn India tan ganol mis Chwefror 2017 er mwyn mynychu Ffair Lyfrau Kolkata, cymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau amrywiol, a chydweithio â thri awdur o India, gan gynnwys Arunava Sinha, sy'n adnabyddus am gyfieithu llenyddiaeth Fengaleg. Yn ystod eu harhosiad, caent eu gwesteia gan y wasg Bee Books, sydd wedi lansio rhestr o ysgrifennu Ewropeaidd newydd dros India gyfan.

 

Dywedodd Esha Chatterjee, Prif Weithredwr Bee Books: “Mae’r ffair lyfrau yn brofiad cyffrous i awduron sy’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn. Mae’n uchafbwynt blynyddol i bobl Kolkata, mae cymaint o lyfrau. Rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i groesawu ein cyfeillion llengar o Gymru – byddant wrth eu boddau yma.”

 

Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Parthian Books: “Fel gwasg, mae gan Parthian ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth, syniadau a safbwyntiau newydd fel rhan o’n rhaglen Carnival of Voices. Trwy Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, rydym yn cydweithio i greu cyfle i awduron o Gymru i ddatblygu eu gwaith mewn amgylchedd a diwylliant cwbl newydd. Bydd antholeg newydd cyhoeddedig yn sicrhau etifeddiaeth parhaol i’r prosiect gan alluogi cysylltiad ehangach â chynulleidfaoedd newydd.”

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cymryd rhan yn y cynllun cyfnewid hwn gydag awduron o India yn gyfle gwych i dri o awduron newydd a phrofiadol gorau Cymru. Bydd yn meithrin eu creadigrwydd a'u dysg digidol ac yn cyfrannu at eu dealltwriaeth o amrywiaeth llenyddol ac ieithyddol India. Drwy weithio mewn partneriaeth â Parthian a'r Wales Arts Review, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyfrannu at godi proffil awduron a gwaith ysgrifennu o Gymru ar lwyfan ryngwladol gyda'r prosiect hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gwrdd â'r awduron o India ym mis Mai ac at gyhoeddiad newydd Parthian, sef un o ddeilliannau'r cynllun cyfnewid hwn.”

 

Dywedodd Gary Raymond, Golygydd, Wales Arts Review: “Mae Wales Arts Review yn llawn cyffro am ein partneriaeth gyda Parthian, Bee Books a Llenyddiaeth Cymru, sefydliadau arloesol sydd â gweledigaethau blaengar. Atyniad y prosiect i ni yw rhyngwladoliaeth y syniad ein bod yn rhannu, nid yn unig ein gwybodaeth a’n diwylliant, ond ein tirwedd hefyd. Datblygiad perthnasau croes-ddiwylliannol fel yr anogir trwy brosiect fel hwn yw un o brif resymau sefydlu Wales Arts Review. Nid yw llenyddiaeth, diwylliant, celf yn bethau ar wahân, maent yn gynnyrch sgyrsiau, rhannu, datblygiad gwaith heb ffiniau, a dyma’n union yw bwriad Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref. Ac ar ddiwedd y daith caiff llyfr ei gyhoeddi, yn brawf parhaol o’r cyfnewid hwn.”

 

Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau, British Council Cymru: “Rydym wrth ein boddau fod y bartneriaeth hon rhwng Parthian, Llenyddiaeth Cymru, Wales Art Review a Bee Books yn agor drws i ni i India. Bydd yn gyfle ardderchog i Gymru arddangos rhywfaint o’i llenyddiaeth gorau, ac i un o’n cyhoeddwyr blaenllaw sefydlu partneriaeth gydag un o gyhoeddwyr mwyaf cyffrous India. Caiff Cronfa India Cymru ei lansio mewn cyfnod arwyddocaol ym mherthynas Cymru â gweddill y byd. Mae’r gronfa’n ein galluogi i arddangos gwerth cysylltiadau byd eang. Yn ychwanegol i Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, mae’r gronfa’n cyflwyno portffolio amrywiol o brosiectau uchel eu proffil, fydd yn dwyn endidau diwylliannol yng Nghymru ynghyd â phartneriaid cryf yn India i greu llwyfannau ar gyfer rhannu diwylliant.”

 

Dywedodd Nicola Morgan, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Mae Cronfa India Cymru yn gyfle arbennig i sefydliadau ac artistiaid diwylliannol Cymru weithio’n agos â phartneriaid yn India. Mae’r gronfa’n dathlu profiadau diwylliannol, arloesedd a chyfnewid, ac mi fydd, heb os, yn torri llwybrau ar gyfer cyfleoedd cydweithio a masnachu rhwng y ddwy wlad. Mae’r bartneriaeth rhwng dau wasg annibynnol, sy’n rhoi cyfle i Natalie Ann Holborow lansio ei chyfrol gyntaf yn ffair lyfrau mwya’r byd, yn esiampl gwych o’r math o brosiect y mae Cronfa Cymru India yn falch o’i hwyluso.”

 

Bydd y tri awdur sy'n ymweld o India yn treulio tair wythnos yng Nghymru ym mis Mai/Mehefin 2017. Byddant yn perfformio ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys:

 

  • Digwyddiad cyhoeddus uchel ei broffil yng Ngŵyl y Gelli
  • Digwyddiad yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gyda’r awduron sy'n gysylltiedig â’r prosiect, yn ogystal ag awduron eraill o Gymru. Bydd Tŷ Newydd yn gartref i o leiaf un o'r awduron o India yn ystod eu hymweliad â Chymru.
  • Gŵyl benwythnos yn Llansteffan gyda’r awduron sy'n gysylltiedig â’r prosiect a rhai o awduron Parthian.
  • Digwyddiad yn Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
  • Digwyddiadau yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd mewn cydweithrediad ag awduron o Gymru ac India ac aelodau o gymuned Indiaidd a'r Wales Arts Review.

 

Bydd yr holl awduron sy'n gysylltiedig â’r prosiect yn cael eu comisiynu i gyfrannu darn o waith i’r antholeg, yn ogystal â dewis dau ddarn o waith sydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu'r diwylliant y maent wedi ei brofi yn wlad y cawsant ymweld â hi. Wrth ymweld â Chymru, bydd yr awduron o India hefyd yn blogio ac yn ysgrifennu am eu hymweliad ar wefan Wales Arts Review a fydd hefyd yn cynnwys cyfweliadau ac eitemau yn hyrwyddo'r ymweliad. Bydd yr un math o gynnwys gan yr awduron o Gymru sy'n ymweld ag India yn ymddangos ar wefan gan Kolkata Bloggers.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Parthian Books ar: 01792 606 605 / info@parthianbooks.com neu Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / gwasg@llenyddiaethcymru.org.  

 

 

[DIWEDD]

 

 

 

 

Description: \\LWSVR01\RedirectedFolders\elena.schmitz\Desktop\BC logo.png

 

Description: \\LWSVR01\RedirectedFolders\elena.schmitz\Desktop\WAI_logo.jpg

                                                          

 

Nodiadau i olygyddion

 

Yr awduron sy'n cymryd rhan

 

  • Natalie Ann Holborow

Mae Natalie Ann Holborow yn fardd ac yn awdur ffuglen sy’n enedigol o Abertawe. Yn 2015, enillodd Wobr Terry Hetherington a Gwobr Robin Reeves, ac yn 2016 daeth yn ail yng Ngwobr Lleisiau Newydd Wales PEN Cymru. Mae wedi cael clod a'i chynnwys ar restr fer amryw o wobrau eraill, gan gynnwys Gwobr Bridport a Gwobr Hippocrates.

Mae gwaith Natalie wedi ymddangos yn ddiweddar yn The Stinging Fly a'r New Welsh Review. Mae ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Suddenly You Find Yourself, ar fin cael ei gyhoeddi gan Parthian yn y DU yn ystod gwanwyn 2017 ac yn India ym mis Ionawr 2017.

 

  • Siôn Tomos Owen

Cafodd Siôn Tomos Owen ei eni a'i fagu yng Nghwm Rhondda gyda'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddo. Ar ôl ennill gradd BA mewn Ysgrifennu Creadigol a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, enillodd Siôn Wobr Bwrsariaeth Tudor Bevan yn 2007, daeth yn ail yng Ngwobr Awduron Ifanc Terry Hetherington yn 2014 a 2013 am ffuglen fer, enillodd Wobr Awdur Ifanc Cystadleuaeth Traethawd Planet yn 2013 a chafod ganmoliaeth arbennig yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Cymru yn 2014. Cyhoeddwyd ei waith mewn nifer o gylchgronau ac antholegau gan gynnwys Ten of the Best, Square, Nu, Nu2, Planet, Red Poets a Cheval ac mae wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Gŵyl Lenyddol y Gelli 2009-2014 a Poetry Slam hwyr iawn ar Radio 5live y BBC. Cyhoeddwyd CAWL gan Parthian yn 2016, sy'n cynnwys straeon byrion, cerddi, traethodau a chartwnau a chomics. Mae CAWL yn antholeg o ymdrechion creadigol a rhwystredigaethau cymdeithasol a gwleidyddol gŵr ifanc doniol a blin sydd wedi ennill sawl gwobr.

 

·       Sophie McKeand

Mae Sophie McKeand yn fardd ac yn addysgwr o ogledd Cymru. Hi yw Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru ar hyn o bryd ac enillodd Wobr Out Spoken Innovation in Poetry yn 2015, cyrhaeddodd restr hir Cystadleuaeth Farddoniaeth y Gymdeithas Farddoniaeth Genedlaethol yn 2014, a hi oedd Bardd Preswyl Gŵyl Focus Wales yn 2016. Mae Sophie wedi perfformio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau, ac ym mis Tachwedd 2015 bu ar daith ledled Cymru i gyd-fynd a chyhoeddi ei hail bamffled barddoniaeth, Hanes. Mae hi hefyd yn awdur ac yn gynhyrchydd ar gyfer nifer o brosiectau TEAM National Theatre Wales, ac yn aml yn hwyluso gweithdai ar gyfer Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru, Age Cymru ac Oriel Wrecsam. Mae hi hefyd yn Ymarferwr Creadigol ar gyfer cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

  • Arunava Sinha

Mae Arunava Sinha yn enwog yn India am gyfieithu llenyddiaeth Fengaleg. Cafodd ei eni a'i fagu yn Kolkata. Enillodd wobr gyfieithu Crossword am gyfieithu Chowringhee gan Sankar (2007) a Seventeen gan Anita Agnihotri (2011), ac enillodd wobr gyfeithu Muse India (2013) am gyfeithu When The Time Is Right gan Buddhadeva Bose. Hefyd, cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Ffuglen Dramor Annibynnol (2009) am ei gyfieithiad o Chowringhee. Mae Sinha ar hyn o bryd yn byw yn New Delhi.

 

Sefydliadau

 

  • Parthian Books

Mae Parthian yn garnifal o leisiau ym maes cyhoeddi annibynnol sydd wedi ei leoli yn Aberteifi ar arfordir y gorllewin. Fe'i sefydlwyd yn 1993 gan Richard Lewis Davies a Gillian Griffiths er mwyn cyhoeddi nofel gyntaf Richard, Work, Sex and Rugby. Ers hynny mae wedi cyhoeddi cannoedd o gyfrolau eraill gan ennill edmygedd darllenwyr a phaneli gwobrau. Mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth arloesol o ffuglen, barddoniaeth, gwaith ffeithiol a drama newydd, gan awduron mor amrywiol â Rachel Trezise, John Harrison, Stevie Davies, Rebecca F. John, Alys Conran, Carole Burns, Carly Holmes, Tyler Keevil, Susmita Bhattacharya, Mark Blayney, Gary Raymond, Angela V. John, Peter Lord a Dai Smith. Wrth wraidd ei genhadaeth mae ei ffydd yng ngrym llyfr da, ac mae'r hyn a gyhoeddir yn adlewyrchu Cymru amrywiol a chyfoes sy'n cadw llygad craff ar y byd ehangach. Cyffrous, bywiog, syfrdanol, perthnasol a gwreiddiol — yr unig beth rhagweladwy am Parthian yw ansawdd yr allbwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ei awduron wedi cael canmoliaeth gan adolygwyr ac anrhydeddau clodwiw gan gynnwys gwobr Lleisiau Newydd PEN International, Gwobr Llyfr Cyntaf John C. Zacharis Ploughshares, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Betty Trask, Llyfr y Flwyddyn Cymru, Gwobr Orange Futures, Gwobr Rhys Davies, Gwobr Journey, Gwobr Darllenwyr Edge Hill a Gwobr Stonewall.

www.parthianbooks.com

 

  • Bee Books

Mae gan Bee Books restr o tua 100 o gyfrolau ac mae'n gwmni cyhoeddi iaith Saesneg sydd â'i bencadlys yn Kolkata a swyddfa ranbarthol yn New Delhi. Mae ei restr yn cynnwys gwaith ffuglen a ffeithiol, clasuron a llenyddiaeth gyfoes boblogaidd, o gomics i nofelau graffig a llyfrau stiwdio. Mae ganddo ffocws cryf ar gyfieithiadau ac mae wedi gweithio gydag ambell i awdur llwyddiannus.

Ei obaith yw ysbrydoli creadigrwydd a chodi ymwybyddiaeth drwy ei lyfrau. Mae ei restr yn cynnwys talentau poblogaidd a llwyddiannus yn ogystal â lleisiau newydd a fydd yn sêr yn y dyfodol. Adlewyrchir ei gariad at yr hyn a wna ym mhob llyfr a gyhoeddir ganddo, ac oherwydd yr holl resymau a nodir uchod roedd Parthian yn argyhoeddedig mai dyma'r partner cyhoeddi perffaith ar y rhaglen hon. Mae gan y ddau wasg weledigaeth a rennir ar gyfer cyhoeddi, cynorthwyo awduron llwyddiannus, lleisiau newydd, llenyddiaeth ryngwladol a chyfieithu, a’n gweithio ar raddfa debyg o ran allbwn.

http://beebooks.in/

 

  • Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae’n credu bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ymhob man. Mae amryw brosiectau a gweithgareddau’r sefydliad yn cynnwys Llyfr y Flwyddyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru ac Awdur Pobl Ifainc Cymru, gweithgareddau Twristiaeth Lenyddol, Cynllun nawdd Awduron ar Daith, cyrsiau ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd, Gwasanaethau i Awduron (yn cynnwys Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora), a Sgwadiau Sgwennu Pobl Ifainc. Lleucu Siencyn yw’r Prif Weithredwr. Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig, (rhif 1146560) ac mae’n gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gwefan: www.llenyddiaethcymru.org /www.literaturewales.org

Trydar: @LlenCymru / @LitWales

Facebook: www.facebook.com/LlenCymruLitWales

Llenyddiaeth Cymru, 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrain, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

 

  • Wales Arts Review

Mae Wales Arts Review yn hafan i ysgrifenu beirniadol a sylw i gelfyddydau o safon uchel – mae’n lle gall adolygwyr brwdfrydig a hyddysg o Gymru a thu hwnt leisio eu barn. Mae Gary Raymond yn nofelydd, adolygwr, bardd ac awdur straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf FOR THOSE WHO COME AFTER yn 2015 gan Parthian Books. Ers 2012 mae wedi bod yn olygydd Wales Arts Review, prif wefan y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae Raymond yn sylwebydd rheolaidd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, ac mae wedi ysgrifennu am y theatr, llenyddiaeth, materion cymdeithasol a cherddoriaeth ar gyfer cyhoeddiadau o'r Guardian i gylchgrawn Rolling Stone. Yn 2013, teithiodd i Tokyo er mwyn cofnodi prosiect cydweithredol National Theatre Wales, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, ac ef oedd yr unig awdur o'r DU i wneud hynny. Yn 2016 roedd yn aelod o ddirprwyaeth Cymru y British Council a anfonwyd i India i ymchwilio i brosiectau cydweithredol posibl ar gyfer Blwyddyn Diwylliant y DU-India yn 2017. Mae hefyd wedi treulio saith mlynedd fel darlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. www.walesartsreview.org

 

 

 

Cyrff ariannu

 

  • Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hwyluso gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau drwy gydweithrediadau, prosiectau, rhwydweithiau a chyfathrebu. Mae'n cynnig cymorth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sy'n gweithio ar lefel ryngwladol. Mae hefyd yn bwynt cyswllt ar gyfer artistiaid a sefydliadau celfyddydol rhyngwladol sy'n gweithio yng Nghymru. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn meithrin rhagoriaeth artistig ryngwladol yng Nghymru ac yn sicrhau effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol i gelfyddydau a diwylliant Cymru.  www.wai.org.uk

 

  • Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gysylltiadau diwylliannol. Mae’n gweithio mewn mwy na 100 o wledydd i greu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill ac yn meithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang, gan gysylltu miliynau o bobl â'r DU, drwy raglenni a gwasanaethau ym meysydd yr iaith Saesneg, y Celfyddydau, Addysg a Chymdeithas. www.britishcouncil.org

Spread the love
Team @ AberdareOnline

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *