fbpx

Sponsor a Talking Book for Blind and Partially Sighted People this Christmas

RNIB calls on people of Wales to Sponsor a Talking Book this Christmas

Wales’ largest sight loss charity RNIB Cymru is encouraging local groups and businesses to Sponsor a Talking Book and give the gift of reading this Christmas in lieu of cards or presents. A Christmas gift that will truly last forever.

 

RNIB Cymru  marked the centenary of one of the country’s best-loved children’s authors Roald Dahl by turning his books into Welsh language Talking Books with an event in Cardiff’s National Museum on Tuesday 8 November 2016. 

 

Roald Dahl, who lived for many years in Cardiff, was himself no stranger to RNIB’s Talking Books library, a collection of over 23,000 audio recordings. He voiced “James and the Giant Peach” in English with a special introduction for blind and partially sighted readers.

 

The charity will now make his works accessible in Welsh as Talking Books for the first time and will bring in professional narrators to voice his stories. Talking Books help create a lifeline to the outside world for blind and partially sighted people. There are 6,034 Talking Books customers and over 106,000 people living with sight loss in Wales.

 

Longstanding RNIB supporter, Lord (Julian) Fellowes, said: “I'm a big believer in the power of a good story and have seen how these Talking Books can transform the lives of blind and partially sighted people. I hope that men and women across the UK will be inspired to sponsor a Talking Book and help us make the magic happen.”

 

RNIB Transcription Centre Manager Emma Jones said: “We all love timeless characters like Matilda, the BFG and the Twits but for many children and adults with sight loss, accessing books isn’t that easy. At RNIB we feel passionately that reading can change the lives of blind and partially sighted people. We’re excited to bring Roald Dahl’s unforgettable books to a new audience.

 

“RNIB can attract high profile names to work in our professional studios as narrators and we are proud to produce content of the highest standard. We love enriching the lives of people with sight loss with our recordings.” 

 

Carol McKinlay, RNIB Area Fundraising Manager, said: “We know that our Talking Books transform the lives of blind and partially sighted people. But we urgently need support to expand our library and give the gift of reading to even more people living with sight loss.

 

“We hope that people and businesses are inspired to sponsor a Talking Book and help us change the story.”

 

RNIB is calling on individuals, community groups and organisations to sponsor a Talking Book by setting up a JustGiving page with a target of £2,500 for an adult book or £1,500 for a children’s book. 

 

RNIB produces at least 25 Welsh language Talking Books from their Cardiff studios every year. The RNIB Library also offers a range of fiction and non-fiction titles for adults and children in braille and giant print. To find out more about the RNIB Library or to sign up for Talking Books call the RNIB Helpline on 0303 123 9999 or visit www.rnib.org.uk . 

 

To sponsor a Talking Book, or to find out more, visit www.rnib.org.uk/sponsortalkingbooks

 

 

ENDS.

 

Contact: Paige Griffiths, Communications Officer on 02920 828566 orpaige.griffiths@rnib.org.uk

 

 

Noddwch Lyfr Llafar ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall y Nadolig hwn

 

RNIB Cymru yn galw ar bobl i noddi Llyfr Llafar y Nadolig hwn

 

Mae elusen fwyaf Cymru ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg, RNIB Cymru, yn annog grwpiau a busnesau lleol i Noddi Llyfr Llafar ac i roi rhodd o ddarllen y Nadolig hwn yn lle cardiau neu anrhegion. Rhodd Nadolig a fydd yn para am byth.

 

Cofnododd RNIB Cymru ganmlwyddiant geni un o'n hoff awduron plant, Roald Dahl, drwy droi ei lyfrau yn Llyfrau Llafar Cymraeg a chynnal digwyddiad yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2016.

 

Bu Roald Dahl yn byw yng Nghaerdydd am flynyddoedd, ac roedd llyfrgell yr RNIB o Lyfrau Llafar, sy'n gasgliad o dros 23,000 o recordiadau sain, yn gyfarwydd i Roald Dahl ei hunan. Bu'n gyfrifol am leisio "James a'r Eirinen Wlanog Enfawr" yn Saesneg gyda chyflwyniad arbennig i ddarllenwyr dall a rhannol ddall.

 

Bydd yr elusen nawr yn sicrhau bod ei weithiau ar gael yn Gymraeg fel Llyfrau Llafar am y tro cyntaf, gan drefnu adroddwyr proffesiynol i leisio'r straeon. Mae Llyfrau Llafar yn cynnig cysylltiad hollbwysig â'r byd mawr y tu allan i bobl ddall a rhannol ddall. Mae gan Lyfrau Llafar 6,034 o gwsmeriaid, ac mae dros 106,000 o bobl wedi colli eu golwg yng Nghymru.

 

Meddai un o gefnogwyr RNIB, yr Arglwydd (Julian) Fellowes: "Rydw i'n gredwr cryf ym mhŵer stori dda ac rydw i wedi gweld sut mae'r Llyfrau Llafar yma'n gallu trawsnewid bywydau pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o bob man yn cael eu hysbrydoli i noddi Llyfr Llafar er mwyn ein helpu i ddod â'r hudoliaeth yn fyw i bawb."

 

Meddai Rheolwr Canolfan Drawsgrifio'r RNIB, Emma Jones: "Rydyn ni i gyd yn gwirioni ar gymeriadau bytholwyrdd fel Matilda, y Cawr Mawr Mwyn a'r Twits, ond i lawer o blant ac oedolion sydd wedi colli eu golwg, dydy mwynhau llyfrau ddim yn hawdd. Yn yr RNIB rydyn ni'n teimlo'n gryf bod darllen yn gallu newid bywydau pobl ddall a rhannol ddall. Rydyn ni'n llawn cyffro wrth feddwl am gael dod â llyfrau bythgofiadwy Roald Dahl i gynulleidfa newydd.

 

"Mae'r RNIB yn gallu denu enwau uchel eu proffil i weithio yn ein stiwdios proffesiynol fel adroddwyr, ac rydyn ni'n falch o allu cynhyrchu cynnwys o'r safon uchaf. Rydyn ni wrth ein boddau yn gallu gwella bywydau pobl sydd wedi colli eu golwg drwy ein recordiadau."

 

Meddai Carol McKinlay, Rheolwr Codi Arian Dalgylch yr RNIB: "Rydyn ni'n gwybod bod ein Llyfrau Llafar yn gweddnewid bywydau pobl ddall a rhannol ddall. Ond mae angen cefnogaeth arnon ni ar frys er mwyn ehangu'n llyfrgell a sicrhau bod hyd yn oed rhagor o bobl sydd wedi colli eu golwg yn cael mwynhau darllen.

 

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl a busnesau yn cael eu hysbrydoli i noddi Llyfr Llafar a'n helpu ni i newid y stori."

 

Mae'r RNIB yn galw ar unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i noddi Llyfr Llafar drwy greu tudalen ar wefan JustGiving gyda tharged o £2,500 ar gyfer llyfr oedolion neu £1,500 ar gyfer llyfr i blant.

 

Mae'r RNIB yn cynhyrchu o leiaf 25 o Lyfrau Llafar Cymraeg o'u stiwdios yng Nghaerdydd bob blwyddyn. Mae Llyfrgell yr RNIB hefyd yn cynnig amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gyfer oedolion a phlant mewn braille ac mewn print mawr. I gael gwybod rhagor am Lyfrgell yr RNIB neu i gofrestru i gael Llyfrau Llafar cysylltwch â Llinell Gymorth yr RNIB drwy ffonio 0303 123 9999, neu ewch i www.rnib.org.uk.

 

I noddi Llyfr Llafar, neu i ddysgu rhagor, ewch i www.rnib.org.uk/sponsortalkingbooks

Spread the love
Team @ AberdareOnline

Team @ AberdareOnline

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *